Dysgu o'r Sêr: Ailgylchu Cosmig
4 Medi 2015

Dysgu o'r Sêr: Ailgylchu Cosmig

Os taflwch botel plastig i'r sbwriel heddiw, fe fydd yn eistedd mewn safle tirlenwi (neu'n arnofio ar wyneb y môr) am gannoedd o flynyddoedd.  Does neb yn gwybod sut le fydd y Ddaear mewn cannoedd o flynyddoedd, ond rydym yn gwybod y bydd poteli plastig yn dal i fod yn boteli plastig.

Beth allwn ni ei wneud i arbed hyn rhag digwydd?  Gallwn ddilyn esiampl y Bydysawd ac ailgylchu!  Cyn i'r Haul, y Ddaear a gweddill gwrthrychau Cysawd yr Haul bodoli, dechreuodd y sêr cyntaf drwy losgi hydrogen a chreu heliwm.  Yna llosgwyd yr heliwm gan greu carbon, ocsigen a chemegau eraill.

Mae sêr, fel bodau dynol, yn cael eu geni, yn byw, ac, yn y pen draw, yn marw.  P'un a ydynt yn marw mewn ffrwdradau uwchnofa ddramatig neu trwy golli rheolaeth ar eu haenau allanol, mae'r cemegau sydd newydd eu gwneud yn cael eu taflu i'r gofod.

Mae'r llun yn dangos rhanbarth enfawr o ofod a elwir yn nebiwla (http://www.unawe.org/kids/unawe/1417/).  Dros filiynau o flynyddoedd mae sêr newydd wedi cael eu geni allan o'r nwy yn y nebiwla hwn.  Ac eto am filiynau o flynyddoedd mae'r sêr hyn wedi marw a dychwelyd y nwy i'r nebiwla fel y gallai'r cylch ddechrau eto.

Heb yr ailgylchu cosmig yma, ni fyddai ein Haul na'r planedau bodoli.  Mae ailgylchu wedi chwarae rhan bwysig wrth helpu bywyd i flodeuo ar y Ddaear.  Os ydym am i fywyd parhau ar ein planed, mae angen i ni roi rôl bwysig i ailgylchu yn ein bywydau bob dydd hefyd.

Ffaith Ddiddorol

Nid oes rhaid i ailgychu fod yn waith called.  Mewn gwirionedd gall fod yn hwyl!  Beth am wneud stondin gemwaith eich hun, potiau planhigion Kitty Ciwt, neu becyn jet - i gyd o boteli plastig wedi eu hailgylchu!  Ewch i http://www.boredpanda.com/plastic-bottle-recycling-ideas/

This Space Scoop is based on a Press Release from ESO .
ESO
Llun
Argarffwch y Fersiwn Cyfeillgar

Eisiau gwybod mwy?

Beth yw Space Scoop?

Darganfyddwch mwy o Seryddiaeth

Ysbrydoli Cenhedlaeth Newydd o Archwilwyr Gofod

Ffrindiau Space Scoop

Cysylltwch â ni