Os ydych chi eisiau dysgu mwy am y gwrthrychau trawiadol yng nghatalog Messier, gallwch chwarae’r gêm ‘Messier Bingo’ ar y wefan lcogt.net/messierbingo/.
Casgliad Gemau Cosmig Charles Messier
Y Bydysawd ydy popeth y gallwn ei gyffwrdd, teimlo, synhwyro, mesur neu ganfod. Mae'n cynnwys biliynau o wrthrychau anhygoel - y planedau, cymylau llwch, galaethau a chlystyrau sêr, fel yr un yn y llun.
Yn ffodus i ni, mae’r trysor cosmig hon, ynghyd â llawer o rai eraill, i'w weld yn awyr y nos gyda dim ond telesgop bach. Mae'n anodd credu, yn ôl yn y 1700au, fod un seryddwr yn meddwl eu bod nhw’n rhywbeth i'w osgoi!
Freuddwyd bywyd Charles Messier oedd dod yn enwog. I wneud hyn, roedd angen iddo ddarganfod comed. (Bryd hynny, dod o hyd i gomed oedd y ffordd hawsaf i wneud argraff ar seryddwyr eraill).
Yn anffodus, pan edrychodd Charles drwy ei delesgop, yn aml ddaeth o hyd i wrthrychau aneglur yn awyr y nos a oedd eisoes wedi eu disgrifio (ac nid oeddent yn gomedau). Felly, penderfynodd achub ei hun peth amser, a phob tro daeth o hyd i wrthrych nad oedd yn symud ar draws yr awyr (fel byddai comedau yn ei wneud), gwnaeth nodyn ohonynt
Erbyn iddo orffen, yn ddamweiniol roedd Charles wedi creu catalog o 110 o brydferthai seryddol; gan gynnwys nifylau nwyol, clystyrau o sêr, a galaethau enfawr. Y peth rhyfedd yw, er iddo ddarganfod 13 o gomedau yn ystod ei fywyd, mae Charles Messier yn enwocaf i ni am y catalog hwn!
Mae'r ddelwedd ysblennydd yn dangos y clwstwr a enwir Messier 47. Mae'r clwstwr yn cael ei ddominyddu gan sêr ifanc glas llachar, gydag ychydig o gewri coch trawiadol.
Os ydych chi eisiau dysgu mwy am y gwrthrychau trawiadol yng nghatalog Messier, gallwch chwarae’r gêm ‘Messier Bingo’ ar y wefan lcogt.net/messierbingo/.