Mae corachod gwyn ymhlith y gwrthrychau hynaf yn y Bydysawd gan eu bod ar ddiwedd cylch bywyd y rhan fwyaf o sêr (gan gynnwys ein Haul!)
Rhamant Serol i’w Orffen Mewn Anobaith
Mae hi’n Ddydd Sant Ffolant ar Ddydd Sadwrn ac y mae cariad yn yr awyr rhwng cyplau o gwmpas y byd ... ac ar draws y Bydysawd. Mae'r llun yn dangos pâr o sêr sy'n treulio’u diwrnodau yn dawnsio o amgylch ei gilydd, yn agosáu’n araf. Yn y pen draw byddant yn uno gyda'i gilydd i greu un seren.
Ond nid yw eu stori mor rhamantus ag y mae'n ymddangos. Mewn tua 700 miliwn o flynyddoedd, pan fydd y sêr yn cusanu o’r diwedd, fe fydd y digwyddiad yn ddigon pwerus i gynnau ffrwydrad uwchnofa! Uwchnofa ydy marwolaeth dreisgar, ffrwydrol seren enfawr - neu ddau yn yr achos hwn!
Mae'r pâr agos yma yn sêr corrach gwyn - sêr bach hynod o drwchus sydd ar ôl pan ddaw sêr fel yr Haul at ddiwedd eu hoes. Mae gweddill y seren yn gwneud cylch o nwy cosmig a elwir yn Nifwl Planedol.
Wrth gyfuno, bydd y sêr yn cynnwys bron ddwywaith cymaint o nwy na’r Haul. Mae hyn yn eu gwneud y pâr mwyaf enfawr o gorachod gwyn ganfuwyd erioed!
Roedd y tîm o wyddonwyr a ddaeth o hyd i’r pâr enfawr mewn gwirionedd yn mynd ati i geisio datrys problem wahanol. Roeddent am wybod pam, weithiau, bod siapau rhyfedd nifwlaidd i’w gweld ar ôl uwchnofa, yn hytrach na siapau modrwy. Un o'r gwrthrychau roeddent yn eu hastudio oedd y cwmwl yn y llun. Yn cuddio yng nghanol y nifwl, darganfyddodd seryddwyr y deuawd truenus.
Ond maent mewn gwirionedd wedi cyfrannu at yr ymchwiliad gwyddonol, drwy gefnogi'r ddamcaniaeth y gall sêr dwbl achosi siapiau rhyfedd rhai o'r nifylau hyn!
Mae corachod gwyn ymhlith y gwrthrychau hynaf yn y Bydysawd gan eu bod ar ddiwedd cylch bywyd y rhan fwyaf o sêr (gan gynnwys ein Haul!)